Mis terfynol y ffurflen TAW ddiwethaf a gyflwynwyd
Dyma fis olaf y Ffurflen TAW ddiwethaf a gyflwynwyd, nid pan oedd yn ddyledus neu pan gafodd ei chyflwyno i Gyllid a Thollau EM. Dewiswch N/A os ydych chi (neu eich cleient) wedi cofrestru ar gyfer TAW ond heb gyflwyno Ffurflen TAW hyd yma.
- Os anfonir Ffurflenni TAW bob mis, defnyddiwch y mis ar gyfer y Ffurflen TAW ddiwethaf a gyflwynwyd.
- Os ydych chi (neu eich cleient) yn defnyddio'r Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol ac wedi cyflwyno dim ond un Ffurflen TAW bob blwyddyn, dewiswch y mis y daeth y cyfnod Ffurflen TAW ddiwethaf i ben.
- Os oes gennych chi (neu eich cleient) Gyfnodau Treth Ansafonol (nid yw'r Ffurflen TAW yn gorffen ar ddiwedd mis) defnyddiwch y mis pan fo'r cyfnod TAW yn dod i ben.
Os ydych yn ymrestru ar gyfer defnyddio gwasanaeth ar-lein Ad-daliadau TAW'r UE ac wedi cofrestru ar gyfer TAW yn Ynys Manaw dewiswch N/A.